Pethau i'w Gwneud tra'n aros ym Maes Pebyll a Charafanau
Mannau i ymweld a nhw a phethau i’w gwneud yn ystod eich arhosiad yn Rhyd y Galen.
Mwynhau golygfeydd syfrdanol o brydferth mynyddoedd Eryri.
Dringo’r Wyddfa – llwybr y mynydd yn agos atoch.
Fymryn i lawr y ffordd y mae Plas Menai, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Chwaraeon Dwr. Cyfle i ddysgu hwylio; canwïo a syrffio gwynt neu ddefnyddio’r pwll nofio.
Dim ond milltir i Lôn Las y llwybr seiclo cenedlaethol a’r llwybr cerdded.
Pysgota agos – y môr, yr afonydd a’r llynnoedd. Cyfle am bysgota bras o fewn 3 milltir i’r gwersyll.
Mae yma nifer o gestyll yn yr ardal – Caernarfon 2.5 milltir; Dolbadarn; Conwy; Biwmares ; Harlech ac eraill.
Mae Caernarfon yn Safle Treftadaeth y Byd. Mwynhewch y caffes a barrau yfed sydd y tu mewn i furiau’r hen dref hanesyddol. Mae yma gychod pleser yn gadael y cei o dan y castell ac yn hwylio Afon Menai. Mae gweithgareddau yn y dref yn cynnwys cwrs golff 18 twll, cartio dan do a chanolfan hamdden. Yma ceir sboncen, pwll nofio, campfan a thenis dan do.
Mae Llanberis yn bentref wrth droed yr Wyddfa, a man cychwyn y trên ar gyfer y copa. Yma hefyd y mae’r Amgueddfa Lechi genedlaethol lle mae cyfle i ddeall a gwybod am fywydau’r chwarelwyr a’u teuluoedd. Yn yr Amgueddfa y mae’r olwyn ddwr weithredol fwyaf ym Mhrydain. Gellir ymweld a’r Mynydd Gwefru , gorsaf bwer hydro drydan. Gallwch fynd ar daith ar y llyn neu fynd i’r Ganolfan Chwaraeon Dwr Padarn. Mae Canolfan Ddeifio Vivian ar gael ar gyfer plymio sgwba. Ac yn y Cwtsh mae yno le chwarae meddal sy’n addas ar gyfer plant hyd at 12 oed.
Ym Mharc Coedwig y Gelli Gyffwrdd fe ellwch saethu gyda ‘r bwa hir Cymreig neu fynd ar ffigarêt deuluol y Ddraig Werdd.
Dim ond 14 milltir o’r gwersyll y mae pentref Beddgelert gyda’r chwedl am y ci. Mae hi’n hawdd cyrraedd y bedd – Bedd Gelert, neu gallwch gerdded ym mwlch prydferth Aberglaslyn. Yr ydych yn agos iawn at gloddfa gopr Sygun lle gallwch weld byd gwaith y mwyngloddwyr yn y 19eg ganrif ac amodau anodd anodd eu bywydau.
Ym Mlaenau Ffestiniog y mae chwarel lechi y Llechwedd a’r ogof anferth sydd o dan y ddaear yno.
Mae yma nifer o sefydliadau yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn yr ardal, fel Castell Penrhyn ar gyrion Bangor. Plas Newydd, cartref Ardalydd Môn ar lan y Fenai a Gerddi Bodnant yn Nyffryn Conwy.
Porthmeirion – y pentref enwog yn arddull bensaerniol yr Eidal lle y cafodd y gyfres deledu ‘The Prisoner’ ei ffilmio.
Mae Pili Palas yn agos yn Sir Fôn – canolfan glynnod ac anifeiliaid bychain. Yn agos hefyd y mae’r Sw Môr a Phlas Gwledig Henblas.
Yn Llanfairpwllgwyngyll y mae siop James Pringle.
Hanner awr yn y car a dyma Llandudno – tref glan y môr Fictorianaidd. Mae yna dram a char codi yn mynd i fyny Craig y Gogarth sydd uwchben y dref. Mi ellir sgïo ar y llechweddau tir sych sydd yma.
Chwe milltir ymhellach a dyma Sw Mynydd Bae Colwyn.
Mae Melin Wlân Trefriw yn Nyffryn Conwy, a Melin Wlân Bryncir rhwng Caernarfon a Porthaethwy.
Mae Penrhyn Llyn yn brydferth, y mae hi’n werth teithio o gwmpas y fro a gweld Enlli a Phorthneigwl o fynydd y Rhiw. Bob dydd Mercher fe gynhelir marchnad.
Ar ol diwrnod pleserus o ddarganfod rhai o drysorau’r ardal mae cyfle am ymlacio ar ddiwedd y dydd ym mharc Rhyd y Galen a mwynhau golygfeydd prydferth sydd o’ch cwmpas ym mhob man. Milltir sydd yma i’r darafn leol.